Senedd Cymru / Welsh Parliament

Y Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM

Cyfarfod am 18:15, ddydd Mawrth 14 Mawrth, drwy gyfrwng Zoom

Yn bresennol: David Rees AS (Cadeirydd), Mark Isherwood AS (Is-Gadeirydd), Jack Sargeant AS (Is-Gadeirydd), Niall Sommerville (Ysgrifenyddiaeth), Naomi Williams, Geertje van Keulen, Tom Addison, Dayna Mason, Emma Yhnell, Yr Athro Jas Pal Badyal, Dr Robert Hoyle, Keith Jones, Eluned Parrott, Dave Harwood, Faron Moller, Sarah Morse, Helen Taylor, Wendy Sadler, Dave Jones, Mike Edmunds

Ymddiheuriadau: Mike Charlton, Helen Obee Reardon, David Cunnah, Glen Gilchrist

1)      Croeso

 

Croesawodd David Rees AS (Cadeirydd) ei gydweithwyr i'r cyfarfod, ac estynnodd groeso arbennig i'r Athro Jas Pal Badyal, a benodwyd yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn ddiweddar.

 

2)      Ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau a gafwyd ar gyfer y cofnodion.

 

3)      Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi

 

Cafodd y cofnodion eu rhannu â’r aelodau cyn y cyfarfod. Cafodd y cofnodion eu derbyn ar sail y ffaith bod yr aelodau wedi’u darllen. Un mater a gododd yn sgil y cofnodion blaenorol oedd sefyllfa athrawon sy’n dysgu pwnc penodol ym maes gwyddoniaeth. Nododd Niall Sommerville fod y mater hwn wedi’i godi gan Joel James AS yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 27 Medi 2022, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Rydym yn ceisio eglurhad a mewnbwn pellach gan Lywodraeth Cymru.

 

4)      Diweddariadau a chyflwyniadau gan gyrff proffesiynol

 

Cafwyd diweddariadau llafar byr gan gydweithwyr o bob rhan o’r sector STEM ynghylch gwaith cyfredol eu sefydliadau. Gofynnwyd i gydweithwyr rannu diweddariadau ysgrifenedig gyda'r Ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Mae un pwnc allweddol sy’n parhau i ddod i’r amlwg, sef diffyg graddedigion ym maes STEMM, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar fusnes, buddsoddi ac economi Cymru. Yn ogystal â hyn, codwyd materion yn ymwneud ag addysg – megis diffyg athrawon sy’n dysgu pwnc penodol ym maes gwyddoniaeth, materion adnoddau, a’r effaith y mae’r sefyllfa hon yn ei chael ar bobl ifanc sy’n gwneud pynciau STEMM, ac sy’n datblygu gyrfa yn y sector STEMM yn dilyn hynny. Roedd teimlad nad oedd y mater hwn yn ymwneud ag addysg neu’r economi yn unig, ond y ddau beth. Roedd y grŵp yn awyddus i archwilio rôl STEMM mewn addysg, a’i rôl fel sbardun allweddol ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru.

 

Cam i’w gymryd: Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd a'r Is-Gadeiryddion yn cydlofnodi llythyr at Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Addysg yn eu gwahodd i gyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol. Byddai hynny’n rhoi cyfle iddynt amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer STEMM fel rhan o economi Cymru, a sut y caiff yr addysg a ddarperir ei threfnu er mwyn cyflawni hyn. Byddai’n rhoi cyfle hefyd i’r sector godi eu pryderon gyda’r Gweinidogion yn uniongyrchol, ac i agor deialog ddefnyddiol.

 

5)      Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru – Yr Athro Jas Pal Badyal

 

Roedd y grŵp yn falch iawn o groesawu’r Athro Jas Pal Badyal, a gymerodd yr awenau fel Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ym mis Chwefror 2023. Rhoddodd yr Athro Badyal gyflwyniad ar ei waith, ei gefndir, a’i uchelgeisiau ar gyfer ei rôl newydd. Fel rhan o hynny, bydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar y Grŵp Trawsbleidiol. Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda’r aelodau.

 

6)      Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru gan Dr Robert Hoyle.

 

7)      Gwyddoniaeth a'r Senedd: y wybodaeth ddiweddaraf

 

Soniodd Leigh Jeffes am y cynlluniau presennol ar gyfer digwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a’r Senedd, a gynhelir ddydd Mawrth 13 Mehefin rhwng, 12:45 a 19:30. Noddir y digwyddiad gan David Rees AS. Y pwnc ar gyfer digwyddiad eleni yw: STEM yn gyrru’r economi – ac a oes gennym y gweithlu ar gyfer y dyfodol?

 

8)      Pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

 

Cytunwyd y dylid gwahodd Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Addysg i’r cyfarfod nesaf i drafod materion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn y sectorau STEMM, ymhlith pynciau eraill. Dylid anfon unrhyw awgrymiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol at yr Ysgrifenyddiaeth i'w hystyried.

 

9)      Unrhyw fater arall

 

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 27 Mehefin yn y Senedd, yn dibynnu ar argaeledd siaradwyr gwadd.